Mae hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner, wedi dweud bydd ei dîm yn wynebu her anodd yn erbyn Connacht nos yfory.
Yn dilyn tymor addawol y llynedd fe fydd y rhanbarth yn gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant gyda pherfformiad da yn Iwerddon.
Y tymor diwetha’, roedd y tîm o Went yn arbennig o gry’ yn eu gemau yng Nghasnewydd ond heb gael cymaint o lwyddiant wrth deithio.
Anlwc
Mae’r Dreigiau wedi cael anlwc gydag anafiadau dros yr haf a hynny wedi amharu ar eu paratoadau ar gyfer y tymor newydd.
“Mae wedi bod yn haf anodd i ni gyda’r holl anafiadau, ond mae’r agwedd o fewn y garfan wedi bod o’r radd flaenaf,” meddai Turner.
“Mae rhai chwaraewyr newydd ddychwelyd a dydyn nhw ddim wedi chwarae rhyw lawer dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n bach o risg ond rwy’n siŵr y bydd pethau’n gwella bob wythnos.
Record wael
“D’yn ni ddim wedi cael y profiadau gorau yn erbyn Connacht yn The Sportsground yn y gorffennol.
“Ond mae’r agwedd wedi bod yn dda trwy’r wythnos ac r’yn ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod heulog yn Galway.
“R’yn ni’n awyddus i ddechrau’n dda gyda buddugoliaeth. Mae’n mynd i fod yn dymor hir gyda’r gêmau ychwanegol, ond rwy’n sicr y bydd y Dreigiau’n gwella fel y bydd y tymor yn mynd yn ei flaen.”
Carfan y Dreigiau
15 Jason Tovey 14 Will Harries 13 Rhodri Gomer-Davies 12 Tom Riley 11 Aled Brew 10 Matthew Jones 9 Danny Lee.
1 Hugh Gustafson 2 Steve Jones 3 Ben Castle 4 Luke Charteris 5 Scott Morgan 6 Joe Bearman 7 Robin Sowden-Taylor 8 Hugo Ellis.
Eilyddion- 16 Lloyd Burns 17 Pat Palmer 18 Ali Mckenzie 19 Rob Sidoli 20 Danny Lydiate 21 Gavin Thomas 22 Nicky Griffiths 23 David Bishop.
Carfan Connacht
Ronan Loughney, Brett Wilkinson, Sean Cronin, Dermot Murphy, Adrian Flavin, Rob Sweeney, Jamie Hagan, Dave Nolan, Michael Swift, Bernie Upton, Michael McCarthy, Ray Ofisa, Mike McComish, Ezra Taylor, Cillian Willis, Adam Kennedy, Frank Murphy, Miah Nikora, Ian Keatley, Fionn Carr, Keith Matthews, Niva Taauso, Tiernan OHalloran, Aidan Wynne, Troy Nathan, Gavin Duffy.