Mae prif hyfforddwr y Scarlets wedi dangos ffydd mewn chwaraewyr sydd wedi gwneud yn dda wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd.
Mae’r maswr Rhys Priestland a’r cefnwr Morgan Stoddard yn dechrau’r gêm gyntaf yn erbyn Benetton Treviso yn Stadio Manigo yfory – a’r ddau wedi gwella o anafiadau.
Rob McCusker sydd wedi cael ei benodi’n gapten wrth iddo gymryd lle David Lyons sydd allan am wythnos oherwydd anaf i linyn y gar.
Mae’r chwaraewyr rhyngwladol, Stephen Jones, Matthew Rees a Sean Lamont yn cael eu gorffwys.
‘Newidiadau arwyddocaol’
“Rwyf yn gyfforddus ac yn hapus gyda’r amrywiaeth o chwaraewyr profiadol a thalent ifanc sydd yn y garfan a dyma’r grŵp cryfaf o chwaraewyr sydd wedi bod yma ers i mi ddechrau,” meddai Nigel Davies.
“Rwyf yn optimistaidd y gallwn adeiladu ar berfformiadau’r llynedd ac mae’r staff hyfforddi yn hyderus iawn wrth edrych ar y potensial sydd yn y garfan”
“R’yn ni wedi gwneud newidiadau arwyddocaol i nifer o agweddau o’n gêm ac mae’r chwaraewyr wedi bod yn gweithio’n galed ar hyn yn ystod yr haf.”
‘Tîm gorau ar hyn o bryd’
Mae Nigel Davies wedi cynnwys y rhan fwyaf o’r tîm a wynebodd Caerwrangon mewn gêm gyfeillgar a’r rhai hynny a chwaraeodd hanner agoriadol y gêm yn erbyn Caerwysg.
“Yn fy marn i dyma’r tîm gorau i wynebu Treviso ar hyn o bryd ac rwy’n mawr obeithio y gwelwn mwy gan nifer o’r chwaraewyr sydd wedi dangos ei doniau dros yr haf.”
Carfan y Sacrlets
15 Morgan Stoddart 14 George North 13 Gareth Maule 12 Regan King 11 Andy Fenby 10 Rhys Priestland 9 Martin Roberts.
1 Iestyn Thomas 2 Emyr Phillips 3 Deacon Manu 4 Lou Reed 5 Damian Welch 6 Josh Turnbull 7 Johnathan Edwards 8 Rob McCusker.
Eilyddion- 16 Ken Owens 17 Phil John 18 Peter Edwards 19 Vernon Cooper 20 Jonny Fa’amatuainu 21 Tavis Knoyle 22 Daniel Evans 23 Jon Davies.