Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young, yn dweud ei fod yn awyddus i’w dîm gael dechrau da i’r tymor pan fydd y rhanbarth yn wynebu Caeredin yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory.
Fe fydd y Gleision yn wynebu’r Albanwyr ar gefn buddugoliaeth 19-3 yn erbyn y Dreigiau mewn gêm gyfeillgar yr wythnos ddiwethaf, ac mae Dai Young am adeiladu ar hynny.
Fe orffenson nhw’r tymor diwetha’n gry’ iawn gan gipio Cwpan Amlin – yr ail gystadleuaeth fawr Ewropeaidd – ond maen nhw wedi dechrau’n ara’ sawl tro yn y blynyddoedd diwetha’.
Mwy o sylw i’r Magners
“R’yn ni’n rhoi mwy o sylw i Gynghrair Magners eleni ac r’yn ni am ddechrau’n dda yn y gemau agoriadol,” meddai Young.
“R’yn ni wedi gorffen yn ail dwywaith, ac mae’n allweddol ein bod yn gorffen yn y pedwar uchaf, ac yn ddelfrydol y ddau uchaf, i gael chwarae gartref yn y gemau ail gyfle.
“Gyda’r safon sydd yn y garfan fe ddylen ni fod yn gystadleuol erbyn diwedd y tymor. “Dyma’r garfan gryfa’ yr wyf wedi ei chael erioed ac r’yn ni’n gwella bob blwyddyn. Mae gennym ni chwaraewyr o safon ac mae dewis y tîm yn anodd”
“Carfannau sy’n ennill timau, nid timau’n unig, a d’yn ni ddim am or-ddefnyddio ein chwaraewyr. Rhaid i chi gael ffydd pan fyddwch yn gorffwys chwaraewr y bydd y person sy’n cymryd ei le yn gwneud job dda.”
Rhagbrawf i’r Heineken
Mae Dai Young yn ymwybodol bod yna sbeis ychwanegol i gêm gyntaf y Gleision yn erbyn Caeredin oherwydd eu bod nhw’n wynebu ei gilydd yn y Cwpan Heineken hefyd.
“Pan gafodd y grwpiau eu dewis roedden nhw’n edrych yn weddol hyderus a oedd yn fy synnu braidd.
“Ond pan edrychais yn ôl ar ein record, mae Caeredin wedi cyflawni’r dwbl yn ein herbyn y tymor diwethaf a’r tymor cynt, felly mae ganddyn nhw bob rheswm i fod yn hyderus.
“Maen nhw wedi ennill pump o’r chwe gêm ddiwethaf yn ein herbyn, felly r’yn ni gwybod eu bod nhw’n dîm o safon. Ond does dim rheswm pam na allwn ni dechrau’r tymor yn gryf.”
Carfan y Gleision
15 Chris Czekaj 14 Richard Mustoe 13 Casey Laulala 12 Tom Shanklin 11 Tom James 10 Dan Parks 9 Richie Rees.
8 Xavier Rush 7 Martyn Williams 6 Maama Molitika 5 Paul Tito 4 Bradley Davies 3 Scott Andrews 2 T Rhys Thomas 1 Gethin Jenkins.
Eilyddion- 16 Sam Hobbs 17 Rhys Williams 18 Tom Davies 19 Deiniol Jones 20 Sam Warburton 21 Lloyd Williams 22 Ceri Sweeney 23 Ben Blair.
Carfan Caeredin
15 Chris Paterson 14 Lee Jones 13 Ben Cairns 12 Alex Grove 11 Tim Visser 10 Phil Godman 9 Mike Blair.
1 Allan Jacobsen 2 Ross Ford 3 Geoff Cross 4 Fraser McKenzie 5 Scott MacLeod 6 Alan MacDonald 7 Netani Talei 8 Roddy Grant.
Eilyddion- 16 Andrew Kelly 17 Kyle Traynor 18 Jack Gilding 19 Craig Hamilton 20 Scott Newlands 21 Greig Laidlaw 22 David Blair 23 John Houston.