Mae maswr y Gweilch, Dan Biggar, yn edrych ymlaen at ddechrau chwarae wrth i’r rhanbarth baratoi i wynebu Ulster yn eu gêm gynta’ yng Nghynghrair Magners yn Ravenhill heno.

Fe gafodd y Cymro dymor addawol iawn y llynedd gan chwarae 26 gêm i’r Gweilch a sgorio 298 o bwyntiau.

Fe aeth Biggar ar daith Cymru i Seland Newydd dros yr haf ac, er bod rhai o’r garfan ryngwladol yn cael gorffwys, mae’r tîm hyfforddi wedi penderfynu cynnwys y chwaraewr ifanc yn y pymtheg cyntaf.

Ac mae Dan Biggar wedi dweud ei fod yn hapus i ddechrau ei dymor yn syth: “Rwy’n awyddus i chwarae ac yn methu aros dychwelyd i’r cae,” meddai.

“Mae rhai o’r bois wedi chwarae llawer o rygbi ers taith y Llewod llynedd ac wedyn mynd i Seland Newydd dros yr haf. Ond rwy’n siŵr eu bod nhw hefyd yn edrych ‘mlaen i chwarae unwaith eto ac fe fyddan nhw’n ôl o fewn wythnos neu ddwy”

Disgwyl gêm anodd

Mae’r Gweilch wedi ennill eu tair gêm olaf yn Ravenhill, ond mae Biggar yn disgwyl her heno.

“Fe fydd yn gêm anodd. Mae gyda ni record dda yn Ravenhill dros y blynyddoedd diwethaf, ond r’yn ni’n ddigon proffesiynol i wybod nad yw canlyniadau cynt yn golygu dim ac r’yn ni’n disgwyl noswaith galed”

“Fe fydd rhaid i ni fod ar ein gorau o’r chwiban cyntaf i sicrhau canlyniad.”

Carfan y Gweilch

15 Gareth Owen 14 Nikki Walker 13 Sonny Parker 12 Andrew Bishop 11 Richard Fussell 10 Dan Biggar 9 Jamie Nutbrown.

1 Ryan Bevington 2 Mefin Davies 3 Craig Mitchell 4 Ian Gough 5 Ian Evans 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Jonathan Thomas.

Eilyddion- 16 Huw Bennett17 Paul James18 Cai Griffiths19 James Goode20 Ben Lewis21 Rhys Webb22 Lee Byrne23 Shane Williams

Carfan Ulster

15 Adam D’Arcy 14 Tommy Seymour 13 Darren Cave 12 Ian Whitten 11 David McIlwaine 10 Niall O’Connor 9 Paul Marshall.

1 Bryan Young 2 Rory Best 3 Declan Fitzpatrick 4 Johann Muller 5 Tim Barker 6 Stephen Ferris 7 Willie Faloon 8 Pedrie Wannenburg.

Eilyddion- 16 Nigel Brady 17 Tom Court 18 Paddy McAllister 19 Ryan Caldwell 20 Robbie Diack 21 Ian Porter 22 Paddy Wallace 23 Jonny Shiels.