Ar ôl pedair blynedd, fe ddaeth priodas y gantores a’r gyflwynwraig Cheryl Cole, gyda’r pêl-droediwr Ashley Cole, i ben o fewn 80 eiliad.

Fe gafodd hi ysgariad cyflym yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw – roedden nhw wedi gwahanu ym mis Chwefror, yn dilyn honiadau papur newydd ynglŷn ag anffyddlondeb yr amddiffynnwr 29 oed sy’n chwarae i Chelsea.

Dim ond llythrennau cynta’u henwau oedd ar restr yr achosion yn Adran Deulu’r Llys ond fe gafodd eu henwau eu cyhoeddi ar ddechrau’r gwrandawiad.

Roedd Cheryl Cole, 27, sy’n rhan o grŵp Girls Aloud ac yn un o gyflwynwyr rhaglen deledu’r X-factor, wedi gofyn i’r llys ganiatáu’r ysgariad ar sail “ymddygiad afresymol” ei gŵr. Doedd yntau ddim yn gwadu.

Doedd yr un o’r ddau yn y llys a doedd neb o’r cyhoedd yno chwaith, dim ond llwyth o bobol y wasg a’r cyfryngau.

Fe barhaodd yr achos am lai nag amser anafiadau mewn gêm bêl-droed nodweddiadol.

Llun: Dyddiau gwell – Cheryl ac Ashley yn 2006 (Gwifren PA)