Mae arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn rhan o grŵp sy’n mynd i’r Unol Daleithiau i gasglu gwybodaeth am ffyrdd o helpu cyn-filwyr a’u cadw rhag torri’r gyfraith.

Mae Elfyn Llwyd yn rhan o bwyllgor o saith o sefydliad yr Howard League sy’n ystyried pam fod cymaint o gyn-filwyr yn gorffen yn y carchar.

Mae Elfyn Llwyd wedi bod yn ymgyrchu ers tro i sicrhau gwell gofal a chymorth i helpu milwyr i ailafael yn eu bywydau ar ôl cyfnodau’n ymladd.

Mae’n dweud bod rhaglenni arbennig ar gael yn yr Unol Daleithiau sy’n mynd i’r afael â’r broblem.

Fe fydd y tîm yn gadael ddydd Llun, ac yn ymweld â charchar a llys arbennig i gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn Buffalo, a Mynwent Daleithiol Cyn-Filwyr Crownsville yn Baltimore.

Y cefndir

Yn ôl Elfyn Llwyd, mae ffigyrau gan undeb y gwasanaeth prawf, NAPO, yn awgrymu fod 8,500 o garcharorion – bron i un o bob 10 – yn gyn-filwyr.

“Mae anawsterau yn dod i ran nifer ohonyn nhw,” meddai Elfyn Llwyd, “a rhai yn dioddef iselder a mynd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol wedi iddynt adael awyrgylch reolaidd a strwythuredig y bywyd milwrol.”

“Mae nifer llai, ond sylweddol er hynny, yn dioddef symptomau anhwylder straen wedi trawma – PTSD. Yn yr achosion gwaethaf, mae cyn-filwyr yn torri i ffwrdd yn llwyr oddi wrth gymdeithas ac yn disgyn i gylch dieflig o drwbl.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd at wraidd y broblem ac yn darganfod pam yn union fod cymaint o gyn-filwyr yn y system garchardai a’r system cyfiawnder troseddol.”

Mae disgwyl y bydd adroddiad yr Howard League – sy’n ymgyrchu i ddiwygio carchardai – yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach eleni.