Mae’r patholegydd a gynhaliodd yr archwiliad cynta’ ar gorff dyn a laddwyd adeg protestiadau’r G20 wedi cael ei atal rhag gweithio am dri mis.

Fe gafodd enw’r Dr ‘Freddy’ Patel ei dynnu oddi ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol am y cyfnod hwnnw oherwydd problemau gyda thri phost mortem rhwng 2002 a 2005.

Ei archwiliad ef o gorff Ian Tomlinson sy’n cael y bai am fethiant Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddod ag achos troseddol yn erbyn plismon a oedd wedi ei daro.

Roedd Ian Tomlinson, gwerthwr papurau newydd 47 oed, wedi cael ei ddal ynghanol protestiadau yn erbyn cyfarfod gwledydd cyfoethog yr G20 yn Llundain ym mis Ebrill y llynedd. Fe fu farw’n fuan wedyn.

‘Achosion naturiol’ – dyfarniad Freddy Patel

Yn ôl Freddy Patel, roedd wedi marw o achosion naturiol ond, wedyn, fe ddangoswyd ffilm fideo o blismon yn ei daro a’i wthio i’r llawr.

Fe ddyfarnodd dau batholegydd arall fod y dyn diniwed wedi marw o waedu mewnol, a hynny’n gyson â chael ei daro.

Ond, yn rhannol oherwydd yr anghytundeb meddygol, fe benderfynodd y Gwasanaeth Erlyn na allen nhw ddod ag achos am ddynladdiad yn erbyn y plismon perthnasol.

‘Difrifol iawn’

Heddiw, fe gafodd Dr Patel ei gosbi am dri achos arall – mewn dau, meddai’r Cyngor Cyffredinol, roedd wedi cam ymddwyn ac roedd ei berfformiad yn ddiffygiol mewn trydydd.

Roedd y Cyngor wedi cynnal gwrandawiad cynharach i’r dystiolaeth gan ddweud eu bod yn trin yr achosion yn “ddifrifol iawn” ac fe fydd rhaid i’r patholegydd fynd o flaen panel archwilio cyn cael ail afael yn ei waith.

O gofio’r amheuon amdano, fe gafodd yr heddlu eu beirniadu am ddefnyddio Dr Patel i gynnal yr awtopsi ar Ian Tomlinson.

Llun: Dr Patel yn y gwrandawiad cynharach (Gwifren PA)