Mae llosgfynydd a fu’n sefydlog am 400 mlynedd wedi chwythu lludw poeth am y trydydd tro’r wythnos yma yng ngogledd talaith Sumatra, yn Indonesia.
Cafodd y gwreichion eu chwythu 10,000 o droedfeddi i’r awyr a chafodd y cryndod ei deimlo tua phum milltir i ffwrdd, ac mae’r ffrwydrad newydd wedi gorfodi pobol i adael eu cartrefi am yr ail dro.
Digwyddodd ffrwydradau cyntaf Mynydd Sinabung ddydd Sul a dydd Llun, gan achosi i 30,000 o bobol ddianc i drefi cyfagos, ac roedd y rheiny wedi dechrau dychwelyd i’w cartrefi pan ddaeth y ffrwydrad diweddara’.
Mae adroddiadau, er hynny, bod rhai o’r trigolion wedi penderfynu aros yn eu cartrefi.
Mae gwyddonwyr wedi cyfaddef nad oedden nhw wedi bod yn cadw llygad ar y mynydd yn iawn, ac nad oedden nhw’n disgwyl y ffrwydrad. Mae 129 o losgfynyddoedd eraill yn Indonesia.
Llun: Llosgfynydd Sinabung mewn cyfnod tawelach