Addysg disgyblion croenwyn sy’n cael ei heffeithio fwyaf gan dlodi yng ngwledydd Prydain, yn ôl ymchwil newydd.
Y rheswm posib am hyn, meddai’r awduron, yw bod rhieni croenwyn tlawd yn rhoi llai o flaenoriaeth ar addysg o’i gymharu â rhieni o gefndiroedd eraill.
Daw’r casgliadau o ddau adroddiad gwahanol:
• Mae’r cyntaf, gan Brifysgol Warwick, yn dweud bod disgyblion croenwyn tlawd yn cwympo ym mhell y tu ôl i’w cyd-ddisgyblion croenwyn cyfoethocach.
• Mae’r adroddiad arall am ganlyniadau TGAU disgyblion yng Nghmru a Lloegr rhwng 2003 a 2007 yn dangos bod y bwlch rhwng tlawd a chefnog ymhlith disgyblion croenwyn yn uwch nag mewn unrhyw grŵp ethnig arall.
Manylion yr adroddiadau
Yn ôl yr Athro Steve Strand o Brifysgol Warwick, a fu’n astudio perfformiad disgyblion yn ardal Lambeth, Llundain, mae’n bosib bod teuluoedd gwyn lle mae cenedlaethau o ddiweithrdra’n anobeithio ynglŷn â gallu addysg i newid pethau.
Ar y llaw arall, mae’n awgrymu bod mewnfudwyr o Bortiwgal, Pacistan a Bangladesh, yn gweld addysg yn ffordd allan o dlodi.
Roedd yr ymchwilwyr eraill o Sefydliad Addysg a Phrifysgol Queen Mary, Llundain, wedi canolbwyntio ar ganlyniadau TGAu ymhlith disgyblion sy’n derbyn cinio am ddim – un mesur o dlodi – ac eraill sy’n talu am ginio.
Mae’r ymchwil yn dangos bod gwahaniaeth o 32% ym mherfformiad y ddau grŵp.
Llun: Dathlu TGAU yn Newcastle eleni (Gwifren PA)