Mae’r BBC wedi cael eu cyhuddo o geisio closio at y Llywodraeth yn Llundain a thrafod cynnwys rhaglenni gwleidyddol ymlaen llaw.

Daw’r honiad ym mhapur newydd y Telegraph, sy’n dweud bod Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, wedi cael cyfarfod anarferol gydag un o swyddogion y Prif Weinidog David Cameron.

Yn ôl y papur, roedden nhw wedi trafod rhoi lle blaenllaw i Weinidogion mewn cyfres o raglenni sy’n ystyried y toriadau mewn gwario cyhoeddus.

Yn ôl papur y Daily Mail, roedd llun o un o’r dogfennau a oedd gan Mark Thompson yn dangos fod y BBC eisiau rhoi’r toriadau “yn eu cyd-destun”.

Mae’r cyfarfod wedi cael ei gondemnio gan ASau Llafur, gan gynnwys David Miliband, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid.

‘Dim rhagfarn’

Mae’r Telegraph hefyd yn awgrymu bod Mark Thompson yn ceisio sicrhau’r Llywodraeth nad yw’r BBC yn rhagfarnu yn eu herbyn, ynghanol trafod am rewi, neu hyd yn oed ostwng y drwydded deledu sy’n rhoi arian i’r Bîb.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn y New Statesman yr wythnos yma, mae’n honni bod newyddiadurwyr y BBC wedi bod ormod i’r chwith yn y gorffennol.

Mae cwestiynau yn cael eu holi ynglŷn â pham mai Mark Thompson ei hun a aeth i’r cyfarfod i drafod materion golygyddol rhaglenni’r Gorfforaeth, yn hytrach na chynhyrchydd neu newyddiadurwr, yn ôl yr arfer.

Ymateb y BBC

Yn ôl llefarydd ar ran y BBC, roedd Mark Thompson wedi bod yn trafod y posibilrwydd o gynnwys aelodau o’r Llywodraeth mewn rhaglenni a fydd yn trafod y toriadau gwario.

Ond dywedodd hefyd bod y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn credu bod BBC diduedd yn holl bwysig, a bod y Gorfforaeth yn cyfarfod â’r Llywodraeth a’r gwrthbleidiau yn gyson.

Llun: Mark Thompson