Mae Llywydd y Cynulliad wedi croesawu awgrym y Comisiwn Etholiadol bod angen newid cwestiwn y refferendwm datganoli.
Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, fe ddylai fod yn bosib o hyd i gadw at yr amserlen a chynnal y bleidlais ym mis Mawrth y flwyddyn nesa’.
Ond roedd yn cefnogi galwad y Comisiwn am ail feddwl a symleiddio’r cwestiwn a’r esboniad a oedd wedi ei gynnig gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Roedd hi’n “amlwg” nad oedd y cwestiwn yn ddealladwy i bobol gyffredin, meddai’r Llywydd ar raglen newyddion Radio Wales.
Roedd y ffaith bod y Comisiwn wedi mynnu cael newid yn dangos pwysigrwydd y broses o ymgynghori gyda’r cyhoedd, meddai.
Beth nesa?
Fe fydd Swyddfa Cymru yn awr yn ail feddwl am yr union eiriau i’w defnyddio yn y refferendwm a fydd yn penderfynu sut y mae’r Cynulliad yn gallu creu deddfau newydd.
Mae Cheryl Gillan wedi dweud eisoes ei bod hi’n derbyn argymhellion y Comisiwn Etholiadol a oedd wedi ymgynghori am ddeg wythnos ynglŷn â geiriau’r cwestiwn.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid cael caniatâd y Senedd yn Llundain cyn gwneud cyfreithiau mewn meysydd penodol – o dan gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad, fe fyddai yna hawl awtomatig i wneud cyfreithiau ym mhob maes sydd wedi’i ddatganoli.