Mae’r coleg cynta’ yng Nghymru ar gyfer pobol ifanc gyda chyflwr Asperger yn agor ym Mhontypŵl.

Cyn hyn, roedd rhaid mynd i golegau yn Lloegr i gael hyfforddiant a chymorth i symud o ysgol i addysg bellach a byd gwaith.

Mae Priory Coleg Wales yn bartneriaeth rhwng Coleg Gwent – coleg addysg bellach mwya’ Cymru – a chwmni preifat, Priory Education Services.

Fe fydd yn cynnig lle i fechgyn a merched rhwng 16 a 25 gan gynnig cyrsiau addysg bellach a hyfforddiant arbennig i’w paratoi at fyd gwaith.

Ymateb i adroddiadau

Mae’n ymateb i nifer o adroddiadau am yr angen am adnoddau arbennig i helpu pobol sydd ar y sbectrwm awtistiaeth – sy’n cynnwys Asperger.

Ynghynt eleni, roedd adroddiad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud bod rhaid gweithredu i wella’r ddarpariaeth ar gyfer pobol ifanc awtistig.

Mae pobol ifanc gydag awtistiaeth yn gallu cael trafferth i addasu ac i gyfathrebu gyda phobol eaill.

Yn 2007, roedd adroddiad wedi dangos mai dim ond 15% o oedolion gydag awtistiaeth yn Lloegr oedd mewn gwaith.

Ar y llaw arall, mae Priory’n dweud bod eu coleg nhw yn Swindon wedi llwyddo i gael eu holl fyfyrwyr i mewn i swyddi yn 2008-9.

Deg yn dechrau

Y disgwyl yw bod deg o fyfyrwyr yn dechrau yn y coleg y tymor yma. Fe fydd deg o swyddi’n cael eu creu i ddechrau, a’r nifer yn codi i 50.

Mae’r coleg sydd ar gampws Coleg Gwent ym Mhontypŵl yn cynnwys stafelloedd dosbarth a thechnoleg gwybodaeth, stafell therapi, cegin ddysgu a stafell fwyta.

“Mae athroniaeth Pirory Coleg Wales wedi ei seilio ar gynnig cymaint o gyfleoedd dysgu â phosib oddi mewn i brif ffrwd addysg er mwyn cynnig dewis, tegwch ac amrywiaeth i fyfyrwyr,” meddai Simon Coles, prifathro’r coleg newydd.

Llun: Priory Coleg Wales