Mae hyfforddwr Montenegro Zlatko Kranjcar wedi cyfaddef bod absenoldeb yr ymosodwr dylanwadol Stevan Jovetic yn ergyd mawr i’w gynlluniau.
Mae ymosodwr Fiorentina allan o’r gêm am rhwng chwech ac wyth mis gydag anaf difrifol i’w ben-glin.
Stevan Jovetic oedd seren y gêm pan lwyddodd Montenegro i guro Cymru 2-1 mewn gêm gyfeillgar ym mis Awst y llynedd.
“Roedd Jovetic yn un o chwaraewyr pwysicaf fy nghynlluniau ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol,” meddai Zlatko Kranjcar, cyn y gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop 2012.
‘Digon da’
Er gwaethaf ei absenoldeb mae’r hyfforddwr yn credu bod ganddo ddigon o chwaraewyr o safon yn ei dîm.
“Mae’n dîm gwahanol heb Jovetic, ond mae gyda ni ddigon o safon yn y garfan i sicrhau canlyniad positif yn erbyn Cymru – ac mae canlyniad positif yn golygu buddugoliaeth a dim byd arall.”
Roedd hefyd wedi codi’r tymheredd cyn y gêm trwy gyhuddo Cymru o fod yn dîm budr ond roedd rheolwr Cymru, John Toshack, yn mynnu fod gan Montenegro chwaraewyr arbennig o dda.
Llun: Cefnogwyr Montenegro yn Podgorica