Mae cwmnïau sy’n creu a gosod giatiau trydan wedi cael cyngor newydd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn dilyn marwolaeth merch fach yn ne Cymru.

Mae’r corff – yr HSE – yn rhybuddio bod angen gwneud yn siŵrf nad yw aelodau o’r cyhoedd ddim yn cael eu dal yn y giatiau awtomatig.

Dyw arafu’r gatiau ddim yn ddigon, meddai’r Gweithgor – mae angen gosod elfennau diogelwch ychwanegol ar gatiau sydd mewn mannau cyhoeddus.

Yn ôl un o’r cyfarwyddwyr, David Ashton, mae gatiau trydan wedi’u cynllunio i ddod i stop os oes rhywun yn y ffordd ac mae gan y sawl sy’n eu gosod “gyfrifoldeb” i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Marwolaethau

Cafodd Karolina Golabek, a oedd yn bump oed, ei gwasgu i farwolaeth gan ietiau trydan ger bloc o fflatiau, Brook Court, ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 3 Gorffennaf eleni.

Rai diwrnodau cyn hynny, roedd Semelia Campbell, oedd yn chwech oed, wedi marw yn yr un modd ym Manceinion.

Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i ymchwilio i’r marwolaethau hynny.

Llun: Brook Court, Pen-y-bont