Fydd gan Gymru ddim esgusion heddiw wrth ddechrau eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan Ewrop yn 2012.

Dim ond tri o brif chwaraewyr John Toshack sydd ar goll wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Montenegro yn y brifddinas Podgorica.

Ar wahân i’r chwaraewyr canol cae, Aaron Ramsey a Jack Collison, a’r amddiffynnwr, Danny Gabbidon, mae gan y rheolwr sgwad llawn.

Mae ef a’r capten, Craig Bellamy, wedi pwysleisio fod angen dechrau da yn y grŵp, lle mae Lloegr yn ffefrynnau i fynd trwodd. Mae’r Swistir a Bwlgaria hefyd yn dimau peryglus.

Addo llawer

Yn y gorffennol, mae John Toshack wedi addo llawer gyda’i sgwad o chwaraewyr ifanc ac, erbyn hyn, mae llawer ohonyn nhw’n brofiadol.

Mae pump o chwaraewyr o dan 23 oed yn debyg o ddechrau’r gêm heddiw ac mae ganddyn nhw gyfanswm o 125 o gapiau.

Un o’r rhai mwya’ allweddol fydd y chwaraewr ochr chwith, Gareth Bale, sydd wedi cael blwyddyn ardderchog i’w glwb Tottenham Hotspur.

Fe fydd Bellamy hefyd yn allweddol wrth iddo yntau ennill ei 60fed cap. Mewn cynhadledd i’r wasg, fe ddywedodd mai Lloegr yw’r ffefrynnau ond fod gan Gymru hefyd gyfle gwirioneddol i wneud eu marc.

Sylwadau John Toshack

“Mae’r bechgyn yn llawn tyndra’ maen nhw’n sylweddoli pa mor bwysig yw cael dechrau da yn y grŵp. Maen nhw’n awyddus iawn, iawn i wneud yn dda. Maen nhw ychydig yn bryderus ond allan nhw ddim aros i ddechrau.

“Mae gyda ni sgwad cryf yma, sy’n rhyddhad ar ôl rhai o’r problemau gwirion yr ’yn ni wedi eu cael o ran anafiadau a chwaraewyr yn tynnu’n ôl.

“R’yn ni’n mynd i mewn i’r gêm yma gyda llawer o’r bechgyn sydd wedi dod trwy’r rhengoedd lo gael eu cyfle cynta’ pan oedden nhw yn eu harddegau yn gynnar yn eu gyrfaoedd. Bellach mae ganddyn nhw nifer deche o gapiau a digon o brofiad.

“Fydden ni wedi licio pe bai’r sgwad yma wedi dod at ei gilydd fel hyn lawer ynghynt; mae’r ailadeiladu wedi cymryd mwy nag y bydden ni wedi hoffi. R’yn ni bellach yn teimlo y gallwn ni gyflawni rhywbeth.”

Llun: Craig Bellamy’n hyfforddi ddoe (Gwifren PA)