Fe gafwyd y cwymp mwya’ mewn 60 mlynedd yn yr alcohol a gafodd ei yfed yng ngwledydd Prydain y llynedd.

Yn ôl arolwg gan Gymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain, roedd 6% yn llai o ddiod feddwol wedi ei phrynu yn 2009 o’i gymharu â’r flwyddyn gynt. Dyna’r cwymp mwya’ ers 1948.

Dyma’r pedwerydd gostyngiad o fewn pum mlynedd ac, yn ôl y Gymdeithas, mae’n golygu bod pobol gwledydd Prydain yn yfed 13% yn llai o alcohol nag yn 2004.

Maen nhw’n defnyddio ffigurau sy’n cael eu cofnodi gan yr Adran Dollau ac yn rhybuddio bod y gostyngiad yn arwydd o’r pwysau sydd ar dafarndai a’r diwydiant cwrw.

Barn y Gymdeithas

“Fe fydd hyn yn drysu llawer o’r pyndits,” meddai Brigid Simmons o’r Gymdeithas. “Dyw pobol gwledydd Prydain ddim yn yfed mwy.

“Mae’r ffigurau’n atgoffa pa mor bwysig yw cwrw a thafarndai o ran yr economi – mewn trosiant, swyddi a threth.”

Mae’r ffigurau’n dangos mai cwrw yw hoff ddiod pobol pan fyddan nhw allan mewn tafarn neu dŷ bwyta – dyna sy’n cael ei yfed gan 60% o bobol. Gwin sy’n ail ar 17%.