Mae un o brif arbenigwyr gwyddonol y Llywodraeth wedi codi amheuon mawr am lwyddiant gwledydd Prydain i dorri ar nwyon tŷ gwydr.
Fe fydd Bob Watson, gwyddonydd amgylcheddol yr adran amgylchedd a ffermio, DEFRA, yn Llundain, yn dweud wrth raglen radio bod y ffigurau swyddogol yn gamarweiniol.
Yn hytrach na chwymp o tua 22% ers 1990, fel y mae’r Llywodraeth yn ei hawlio, fe fydd yr Athro Watson yn dweud bod lefelau’r nwyon mewn gwirionedd wedi cynyddu o 12%.
Y cefndir
Achos yr anghytundeb yw nwyddau sy’n cael eu mewnforio – mae’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu creu wrth eu cynhyrchu yn cael eu cyfri’ yn y wlad wreiddiol, nid yn y wlad sy’n eu prynu.
Gyda gwledydd Prydain yn mewnforio mwy a mwy o nwyddau o wledydd fel China, mae Bob Watson yn awgrymu fod hynny’n ystumio’r ffigurau. Fe fydd yn dweud wrth raglen o’r enw Uncertain Climate ar Radio 4 bod angen agwedd fwy realistig at y ffigurau.
Er hynny, mae’r Llywodraeth yn cadw at y ffigurau swyddogol gan ddweud nad oes modd cadw cyfri’ cywir o nwyon sy’n cael eu gollwng wrth greu nwyddau mewn gwledydd eraill. Yr ateb, medden nhw, yw cytundeb byd-eang.
Llun: Bob Watson (Gwifren PA)