Fe fydd tîm criced Pacistan yn cyrraedd Caerdydd heddiw ar gyfer dwy gêm ryngwladol Ugain20 – ond heb dri chwaraewr sydd wedi eu gwahardd dros dro oherwydd cyhuddiadau o lygredd.
Mae disgwyl y bydd y tri – y capten Salman Butt a’r bowlwyr cyflym, Mohammad Asif a Mohammad Aamer – yn cael eu holi gan yr heddlu yn ystod y dydd.
Y gred yw eu bod nhw’n aros mewn gwesty yn Llundain ar ôl i’r Bwrdd Criced Rhyngwladol eu cyhuddo’n ffurfiol a’u gwahardd rhag chwarae na chymryd rhan mewn criced mewn unrhyw ffordd.
Fe fydd gweddill y tîm yn chwarae dwy gêm yng Nghymru yn erbyn Lloegr – ddydd Sul a dydd Mawrth.
Gwadu’r cyhuddiadau
Maen nhw’n gwadu cyhuddiadau eu bod nhw wedi derbyn llwgrwobrwyon am fowlio pelenni gwag – no-balls – bwriadol yn rhan o gynllwyn betio.
Ddoe, fe gawson nhw gefnogaeth gan Uwch Gomisiynydd Pacistan, Wajid Hasan, a oedd yn awgrymu mai cynllwyn oedd y cyhuddiadau a bod y chwaraewyr yn gwbl ddiniwed.
Mae asiant criced eisoes wedi ei holi gan yr heddlu a’i ryddhau ar fechnïaeth ar ôl i bapur y News of the World honni eu bod wedi talu £150,000 iddo am drefnu’r cynllwyn.
Sylwadau’r Bwrdd Criced
“Fyddwn ni ddim yn goddef llygredd mewn criced. Rhaid i ni fod yn bendant gyda materion fel hyn. Os bydd y cyhuddiadau’n cael eu profi, gall y troseddau hyn ddwyn cosbau difrifol, hyd at waharddiad oes.” – Haroon Lorgat, Prif Weithredwr y Bwrdd.
Llun: Mohammad Aamer – un o’r tri