Fe fydd y trafodaethau heddwch yn y Dwyrain Canol yn parhau, ar ôl y cyfarfod cynta’ rhwng y ddwy ochr ers bron ddwy flynedd.
Mae arweinwyr Israel a Phalesteiniaid y Lan Orllewinol wedi cytuno i gwrdd eto ar 14 Medi ac wedyn bob pythefnos.
Y nod, yn ôl Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, a’r Arlywydd Mahmoud Abbas, yw setlo’r prif ddadleuon a chael cytundeb fframwaith o fewn y flwyddyn nesa’.
Ond mae mudiad Palesteinaidd, Hamas, sy’n rheoli Gaza ac sydd heb gael gwahoddiad i’r trafodaethau yn addo ymladd yn erbyn unrhyw gytundeb.
Mae’r ddwy ochr hefyd wedi awgrymu amodau anodd – Israel eisiau sicrhau diogelwch ei ffiniau a’r Palesteiniaid eisiau atal rhagor o adeiladu tai gan fewnfudwyr Israelaidd.
‘Anodd’ – rhybudd Hillary Clinton
Roedd y trafodaethau yn Washington ddoe wedi digwydd gyda chymorth Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, a’r cennad heddwch, George Mitchell.
Fe wnaeth Hillary Clinton yn glir eu bod yn deall beth yw maint y dasg o’u blaenau. “R’yn ni wedi bod yma o’r blaen,” meddai.
“R’yn ni’n gwybod pa mor anodd yw’r ffordd o’n blaenau. Fe fydd y rhai sydd yn erbyn heddwch yn gwneud eu gorau i danseilio’r broses.”
Y dref wyliau yn yr Aifft Sharm El-Sheik yw’r lle mwya’ tebygol ar gyfer y trafodaethau nesa’, gyda George Mitchell yn pwysleisio y bydd angen cyfaddawdu sylfaenol gan y ddwy ochr.
Llun: Y trafodaethau ddoe – Abbas a Netanyahu (AP Photo)