Mae’r beiciwr o Gymru, Geraint Thomas wedi tynnu allan o dîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Seiclo’r Byd ym Melbourne.

Fe gafodd y Cymro ei enwi fel un o ddau feiciwr i gefnogi ymgais Mark Cavendish i ennill coron y byd.

Ond mae Thomas wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn cystadlu gan nad yw’n teimlo’n hwylus ers gorffen cymryd rhan yn y Tour de France.

Dim gant y cant

“Dw i ddim yn mynd i fod yn cystadlu am nad ydw i wedi bod yn teimlo’n rhy dda ers y Tour,” meddai Geraint Thomas.

“Fe ges i ychydig o amser i ffwrdd cyn dychwelyd ar gyfer taith Eneco y mis diwetha’, ond ro’n i’n cael trafferthion.

“Dw i wedi penderfynu tynnu ma’s oherwydd dw i ddim yn credu y bydda’ i’n 100% ac felly mae’n well bod rhywun arall yn mynd yn fy lle.”

Fe fydd Geraint Thomas yn cymryd mwy o amser i ffwrdd i wella cyn dychwelyd i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi fis Hydref.