Mae’r dyn a fu’n gyfrifol am ysgrifennu un o straeon hoyw ddiweddara’ yr opera sebon EastEnders yn dod i Gaerdydd i feirniadu gwyl ffilmiau.

Dominic Treadwell-Collins oedd y sgriptiwr a ddaeth â chymeriadau Christian a Syed, y Mwslem hoyw, at ei gilydd ar sgrîniau gwylwyr yr opera sebon.

Yn mis Hydref, fe fydd yn dod i Gaerdydd i feirniadu yng Ngŵyl Gwobr Iris – gŵyl sydd yn denu ffilmiau hoyw o bedwar ban byd i gystadlu.

“Mae’n braf bod yn rhan o rwybeth mor fawr, ac mor wahanol,” meddai Dominic Treadwell-Collins, sy’n hoyw ei hun.

Dywedodd ei fod yn gobeithio dod o hyd i dalent newydd “ynghudd” yn y ffilmiau sydd ar restr fer Gŵyl Gwobr Iris.

Llun: Kick Off, un o ffilmiau Gwyl Iris