Mae un o’r cymdeithasau tai sy’n cynnig cartrefi ar rent i bobol yn ardal Hirael, Bangor, yn dweud eu bod nhw’n “ymwybodol o broblemau” cyffuriau yno, a’u bod nhw’n “gweithredu”.

Daw hyn wedi i un o drigolion Hirael ym Mangor ddweud wrth Golwg360 ei fod yn pryderu am y “nodwyddau ar lawr” a’r cynnydd mewn torcyfraith mewn hen ran o ddinas Bangor lle’r oedd pawb yn arfer nabod pawb.

Mae’r dyn sy’n dymuno aros yn ddienw oherwydd ei fod yn pryderu am ei ddiogelwch ei hun, wedi dweud wrth Golwg360 bod “llawer o bobol sy’n gaeth i heroin, a gwerthwyr cyffuriau” wedi bod yn symud i’r ardal o’r ddinas sy’n ymestyn o iard gychod Dickies i Borth Penrhyn.

Gweithredu

“Rydan ni’n ymwybodol bod adroddiadau wedi bod am broblemau yn yr ardal, ac rydan ni’n gweithredu mewn achosion lle mae tystiolaeth yn cysylltu tenantiaid ag ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd â 119 o dai yn Hirael.

“Mewn un eiddo cafwyd tystiolaeth bod tenant yn ymdrin â chyffuriau, ac mi gymron ni gamau priodol i derfynu’r denantiaeth. Mae’r tenant yma bellach wedi symud allan o’r eiddo.

“Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi ymrwymo i daclo defnydd o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydan ni’n cydweithio efo’n tenantiaid a’r heddlu i leihau achosion ar draws y sir.”

Sefydliad tai annibynnol dielw yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd sydd wedi’i gofrestru a’i reoleiddio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Maen nhw’n darparu tai rhent fforddiadwy.

Mwy o heddlu

Eisoes, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y bydden nhw’n “cynyddu eu patrolau yn yr ardal ac yn parhau i hysbysu’r cyhoedd o’r camau positif maen nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau.”