Mae meteorolegwyr yn cadw llygad manwl ar drywydd Corwynt Earl, wrth i Arlywydd Obama ddatgan stad o argyfwng yn nhalaith Gogledd Carolina heddiw.

Mae’r corwynt yn agosáu at arfordir dwyrain yr Unol Daleithiau, ac os bydd yn parhau ar y trywydd yma, gallai achosi trafferthion difrifol yn y dalaith.

Roedd llywodraethwyr taleithiau Virginia a Maryland wedi datgan cyflwr o argyfwng yn ogystal.

Peryg

Mae’r storm wedi cael ei disgrifio fel un categori pedwar, sy’n golygu bod gwyntoedd wedi cyrraedd cyflwymder o 145 milltir yr awr.

Mae rhybudd y gallai stormydd trofannol daro arfordir Long Island yn Efrog Newydd yn ogystal, ac y gallai corwynt effeithio ar Massachusetts.

Mae miloedd o ymwelwyr a phreswylwyr eisoes wedi gadael ynysoedd Hatteras a Ocracoke yng ngogledd Carloina, yn sgil y peryg.