Cyn cyfansoddi ei ddarn diweddara’ ar gyfer cerddorfa, fe fu cyfansoddwr o Gymru yn ymchwilio am ddwy flynedd i hanes dinas yr Unol Daleithiau.

Dathlu 300 mlwyddiant New Bernmae ‘Enduring City: Portrait of New Bern’ gan Gareth Glyn.

Fe fydd Cerddorfa Symffoni Gogledd Carolina yn perfformio’r gwaith am y tro cynta’ yn ystod cyngerdd agoriadol y dathliadau yn yr Unol Daleithiau ymhen pythefnos.

Her yr hanes

Un o brif heriau’r cyfansoddwr oedd mynd i’r afael â “hanes cuddiedig New Bern”.

“Doeddwn i’n gwybod bron ddim am hanes New Burn,” meddai Gareth Glyn wrth Golwg360. “Roedd yr her o grisialu’r cyfan mewn darn ugain munud o hyd yn dipyn o sialens.

“Roeddwn i’n mynd drwy hanes yr ardal ac yn meddwl mod i’n rhy arwynebol. Ond, mi ddywedodd y pwyllgor wrtha’ i fy mod i’n gwybod mwy am eu hanes nhw na rhai ohonyn nhw’u hunain…

“Ychydig o bobol sy’n gwybod fod Pepsi Cola wedi dod i fodolaeth yn New Bern,” meddai er nad yw’n cynnwys hynny yn y gwaith. Mae’r gwaith yn cyfeirio at enwau llefarydd, pobol a digwyddiadau sydd wedi siapio’r ardal.”

Pepsi… a pherthyn

Yn ôl y cyfansoddwr, mae wedi defnyddio llythrennau o’r wyddor sydd mewn enwau pobol a llefydd yn yr ardal leol (fel John Lawson a Carolina) fel nodau i liwio motifau a themâu cerddorol y darn.

“Roeddwn i eisiau ei gwneud hi’n amlwg bod y darn yn perthyn i’r lle ac i bobl New Bern,” meddai.

“Mae’r holl ddarn wedi tyfu o’r themâu hyn. Maen nhw’n gywrain yn hynny o beth… wedyn, mae adrannau dilynol y gwaith yn mynd i’r afael â rhyfeloedd, adferiad a hyder at y dyfodol.

“Mae dawns rythmig gyfoes drwy’r adran ola’, ac mae’r gwaith yn dod i uchafbwynt mawreddog ar y diwedd,” meddai Gareth Glyn.