Mae arddangosfa gelf wedi agor yn Ninbych-y-Pysgod i ddathlu 500 mlynedd ers genedigaeth y meddyg a’r mathemategydd o’r dref, Robert Recorde.
Mae dyfeisydd yr arwydd ‘hafal’ neu ‘=’ yn ei dre’ enedigol mewn gwaith celf gan 53 o artistiaid lleol a chenedlaethol.
Un rhan o’r arddangosfa yw tirlun gan Osi Rhys Osmond sydd â nifer o sumbolau mathemtegol ynghudd ynddo, yng nghanol y cychod a’r gwylanod a’r môr, fel petai’n efelychu myfyrdod gan Recorde ei hun wrth wylio’r llanw a’r trai.
Mae gan un disgybl ysgol leol llun agos iawn o wyneb plentyn sydd â nifer o symbolau mathemategol wedi eu hadlewyrchu yn ei sbectol.
Mae llawer o’r gwaith yn defnyddio lluniau a delweddau o’r byd o’n cwmpas, ac yn tynnu sylw at bresenoldeb agweddau o fathemateg sydd yn ymddangos mewn bywyd bob dydd.
Darllenwch y stori lawn yn Golwg, Medi 2