Mae honiadau bod 10 ymgyrchydd gwleidyddol wedi cael eu lladd gan luoedd Nato yn Affganistan.

Roedd yr ymosodiad o’r awyr yn targedu gwrthryfelwyr yn ardal Rustaq yn nhalaith Takhar, ac, yn ôl adroddiadau, mae NATO‘n dweud na ddigwyddodd mewn ardal boblog.

Mae’n debyg bod y bobol a fu farw yn ymgyrchu dros ymgeisydd ar gyfer etholiadau seneddol y wlad ym mis Medi.

Mae arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, wedi beirniadu’r digwyddiad. Mae eisoes wedi rhybuddio bod lladd pobol gyffredin yn tanseilio cefnogaeth ar gyfer y frwydr yn erbyn y Taliban.

Mae NATO wedi dweud bod yr ymosodiad wedi lladd o leiaf 12 gwrthryfelwr, gan gynnwys dau gomander. Maen nhw hefyd wedi dweud y byddant yn ymchwilio’r honiadau am farwolaethau’r ymgyrchwyr.

Yn y cyfamser, mae dau filwr arall o’r Unol Daleithiau wedi cael eu lladd yn y wlad, ynghyd ag adroddiadau bod o leia’ 37 o wrthryfelwyr wedi cael eu lladd mewn gwahanol ymosodiadau gan NATO.