Mae chwaraewr canol cae Blackpool, David Vaughan yn gobeithio y bydd cychwyniad addawol ei glwb yn dylanwadu ar ymgyrch rhagbrofol Cymru i Ewro 2012 sy’n dechrau ym Motenegro nos yfory.
Mae Vaughan yn gobeithio chwarae rhan lawn i Gymru yn erbyn ei gwrthwynebwyr yn Podgorica ar ôl cael ei flas gyntaf o chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae wedi bod yn ddechrau da i ni. Mae gan Blackpool pedwar pwynt ac roedden ni’n anlwcus i beidio cael chwech,” meddai’r Cymro.
“Mae wastad wedi bod yn freuddwyd i chwarae yn yr Uwch Gynghrair, ac os gallaf chwarae’n gyson fe fydd hynny’n helpu fy ngyrfa ryngwladol”
“Os rydych yn chwarae’n dda dros eich clwb gallwch gario hynny drosodd i’r gemau rhyngwladol a sicrhau lle yn y tîm yn gyson.”
Dyled i Toshack
Dim ond pedair gwaith y mae David Vaughan wedi chwarae i Gymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’, ond mae’n gobeithio gwella ar y record honno yn y dyfodol.
Mae Vaughan yn credu bod John Toshack wedi gwneud gwaith da iawn trwy roi cyfle i chwaraewyr ifanc ennill profiad o chwarae ar y lefel rhyngwladol.
“Does dim gair drwg gennyf i ddweud am John Toshack – mae wedi gwneud llawer o bethau da i mi,” meddai David Vaughan.
“Mae wedi rhoi cyfleoedd i lawer o chwaraewyr sydd erbyn hyn wedi ennill 10, 15, 20 o gapiau. Rwy’n credu ein bod ni gyd yn ddyledus iddo.
“Mae chwarae i Gymru wastad yn dda, ond byddai cael chwarae yn y gemau rhagbrofol a thrwy fendith, gwneud yn dda, yn rhywbeth arbennig.”