Mae Morgannwg wedi arwyddo’r wicedwr a’r batiwr Chris Cooke o Dde Affrica ar gytundeb dwy flynedd.

Mae’r chwaraewr 24 oed wedi sgorio dros 500 o rediadau i ail dîm Morgannwg dros yr haf, ac mae wedi creu argraff yn y gemau undydd a thridiau.

Fe gafodd Chris Cooke ei eni yn Johannesburg, ond mae ganddo brofiad o chwarae yng ngwledydd Prydain ar ôl treulio tymor 2009 yn chwarae i ail dîm Swydd Nottingham.

Argraff

Roedd Cooke yn chwarae i dim Western Province gy tymor diwetha’, ac fe sgoriodd 109 o rediadau mewn un gêm.

“Mae Chris wedi creu argarff yn chwarae i’r ail dîm eleni ac mae wedi chwarae’n dda yng ngemau’r Tlws a’r Bencampwriaeth,” meddai Cyfarywddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard.

“Wrth edrych i’r dyfodol, fe fydd yn ychwanegiad da iawn i’r garfan.”

Mae Chris Cooke wedi cael ei gynnwys yng ngarfan 13 dyn Morgannwg i wynebu Gwlad yr Haf mewn gêm 40 pelawd yn Taunton ddydd Sadwrn.

Carfan Morgannwg

Jim Allenby, William Bragg, David Brown, Tom Maynard, Ben Wright, Gareth Rees, Christopher Cooke, Mark Wallace, Dean Cosker, William Owen, Chris Ashling, David Harrison, Alex Jones.