Mae papurau Llundain wedi bod yn cyhoeddi gwybodaeth “gelwyddog” am yr ysb?wr o Fôn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn fflat yn y ddinas yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y llefarydd ar ran Heddlu Llundain, doedden nhw ddim yn gallu cadarnhau eto sut y bu Gareth Williams farw, ond bod nifer o’r awgrymiadau yn y papurau ynglyn a’i farwolaeth yn gwbl ddi-sail.
“Mae’r holl sôn ym mhapurau newydd cenedlaethol bod sim cards ei ffôn symudol wedi eu gosod allan mewn modd defodol neu seremon?ol yn gelwyddog,” meddai Lisa Carroll.
“Doedd ei gorff chwaith ddim wedi cael ei ddatgymalu a does yna ddim tystiolaeth ei fod wedi cael ei drywanu.”
Mae’r teulu wedi gofyn am lonydd i alaru am eu mab 30 oed, gan ddweud fod yr holl ddyfalu am ei fywyd personol wedi eu brifo.
Darllenwch y stori lawn yn Golwg, Medi 2