Mae cwmn?au teledu o Gaernarfon yn gorfod gwneud y tro gyda stiwdios recordio ac ôl-gynhyrchu dros dro, er bod stiwdio barahol Barcud Derwen yn wag.
Mae cwmni Grant Thornton wedi rhoi’r stwidio yng Nghaernarfon ar werth am £1 miliwn – pris na all cwmn?au lleol fel Rondo a Chwmni Da ei fforddio.
Dywedodd Robin Evans, Cadeirydd Cwmni Teledu Rondo, eu bod nhw wedi rhoi cynnig “teg iawn” i mewn am y stiwdio, ond doedd dim posib iddyn nhw gyrraedd y pris gofynnol o £1 miliwn heb “beryglu dyfodol Rondo”.
Yn ôl Dylan Huws o Gwmni Da, “mi fydd angen adnodd stiwdio yn y Gogledd… Rydan ni’n crafu ein penna’ ynglŷn â be i’w wneud am ofod recordio.”
Mae Grant Thornton yn gofyn £1 miliwn am y stiwdio, er waetha’r ffaith fod y rhan fwya’ o offer ac adnoddau’r stiwdio wedi eu gwerthu mewn ocsiwn ar-lein yr wythnos ddiwetha’.
Darllenwch y stori lawn yn Golwg, Medi 2