Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cynnig newidiadau i’r cwestiwn a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y refferendwm ar bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd y comisiwn wedi asesu’r cwestiwn a’i ragarweiniad a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddeg wythnos yn ôl.

Cafodd nifer o bobol ac arbenigwyr eu holi, ac yn ôl y Comisiwn, er bod y mwyafrif yn credu y dylid cadw strwythur sylfaenol y cwestiwn, y teimlad oedd bod y geiriad yn anodd i’w ddeall a bod yna hefyd elfennau “amwys” iddo.

Nodwedd bwysig arall sy’n cael sylw yw cymhlethdod y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, a bod y cwestiwn ddim yn llwyddo i gywiro camsyniadau am strwythur datganoli’r wlad.

Y cwestiwn

Mae’r comisiwn yn dweud y dylai’r elfennau canlynol gael eu cadw:

• teitl byr a chryno
• disgrifiad o’r trefniadau deddfwriaethol cyfredol
• arwydd o sut fyddai trefniadau deddfwriaethol yn cael eu heffeithio os
rhoddwyd pleidlais ydw / nac ydw
• cwestiwn byr a chlir

Ond mae angen gwneud newid strwythurol sy’n cynnwys:

• hyd cyffredinol
• hyd a chymhlethdod y frawddeg
• gwahaniaeth rhwng senarios y presennol a rhai’r dyfodol

Y cwestiwn amgen

Mae’r cwestiwn amgen sy’n cael ei gynnig yn rhoi cefndir fel hyn yn gynta’:

Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis:

• amaethyddiaeth
• yr amgylchedd
• tai
• addysg
• iechyd
• llywodraeth leol

Mae’r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill. Er mwyn llunio deddfau ar unrhyw un o’r materion eraill hyn, mae’n rhaid i’r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio’r deddfau hyn neu beidio.

Ni all y Cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.

Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio ‘ydw’

Bydd y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt, heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.

Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio ‘nac ydw’

Bydd yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.

Ac yna, mae’r cwestiwn yn dod:

A ydych yn dymuno i’r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt? Ydw / Nac ydw

Deall yn bwysig

Yn ôl y Comisiynydd Etholiadol Ian Kelsall, “Mae pwnc y refferendwm yn un heriol i’w gyfleu, ac nid yw drafftio cwestiwn yn fater rhwydd o gwbwl.”

“Mae’n bwysig fod rhai geiriau, ymadroddion a therminoleg allweddol yn cael eu hailddrafftio os yw pleidleiswyr yn mynd i ddeall y cwestiwn, er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn yn y refferendwm.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein hadroddiad a’n cynnig ar gyfer ailddrafftio yn dangos mai ein blaenoriaeth oedd cael cwestiwn oedd pleidleiswyr yn gallu ei ddeall, fel eu bod nhw’n gwybod am beth maen nhw’n pleidleisio.”