Mae gwyntoedd cryfion wedi arwain at farwolaeth tri o bobol yn Ne Corea yn ystod y stormydd trofannol gwaetha’ i daro ardal y brifddinas Seoul ers 15 mlynedd.
Yn ôl adroddiadau, bu dyn 80 oed farw ar ôl cael ei daro gan deilsen oedd wedi cwympo oddi ar do adeilad; a chafodd dyn 37 oed ei ladd ar y ffordd i’r gwaith gan gangen oedd wedi cwympo.
Cafodd dyn 75 oed hefyd ei ladd ar ôl cael sioc drydanol.
Teiffŵn
Roedd Teiffŵn Kompasu wedi achosi i goed gwympo ac wedi amharu ar gyflenwad trydan degau o filoedd o bobol, yn ogystal ag atal awyrennau a threnau rhag teithio.
Roedd hefyd wedi creu difrod gwerth miliynau o bunnoedd i stadiwm bêl-droed, a chafodd ysgolion eu hatal rhag agor am gyfnod.
Fe wnaeth Kompasu – y gair Japaneaidd am gwmpawd – daro Ynys Ganghwa, sydd tua 40 milltir o orllewin Seoul yn gynnar heddiw.
Credir bod y storm yn teithio i’r gogledd-ddwyrain tuag at Ogledd Corea.