Mae rheolwr tîm criced Pacistan, Yawar Saeed, wedi cadarnhau na fydd y tri chwaraewr sydd yng nghanol y sgandal sgêm betio, yn cymryd mwy o ran yn y daith.
Roedd Pacistan eisoes wedi cyhoeddi y byddai’r bowlwyr Mohammad Asif a Mohammad Aamer ynghyd â’r capten, Salman Butt yn absennol ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad yr Haf heddiw.
Ond fe fydd y tri hefyd yn colli’r gemau Ugain20 yn erbyn Lloegr yn Stadiwm SWALEC Caerdydd sy’n cychwyn ar 5 Medi.
Newid meddwl
Yn wreiddiol, fe ddywedodd Bwrdd Criced Pacistan na fydd unrhyw chwaraewr yn cael eu gwahardd tra bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal.
Yn ôl Yawar Saeed, dyw’r chwaraewyr dan sylw ddim wedi cael eu gwahardd, ond fe fydd y tîm yn ychwanegu tri chwaraewr newydd i’r garfan erbyn y gemau yn erbyn Lloegr.
Dyw’r rheolwr ddim wedi rhoi rheswm tros y penderfyniad i’w gollwng o’r garfan, ac mae’r ymchwiliad i’r honiadau o dwyll yn parhau.
Cefndir
Fe enwodd papur News of the World y tri chwaraewr dan sylw mewn cysylltiad â chynllun i fowlio peli annilys yn fwriadol fel rhan o sgêm betio.
Mae’r tri chwaraewr eisoes wedi cael eu holi gan yr heddlu, ac mae’r awdurdodau hefyd wedi cymryd eu ffonau symudol oddi arnyn nhw.
Fe gafodd yr asiant criced Mazhar Majeed ei arestio am ei ran honedig yn y cynllun dros y penwythnos. Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddoe, ac fe fydd yn ymddangos o flaen yr heddlu yn ddiweddarach.
Mae tri pherson arall – dau ddyn a menyw o Lundain – wedi cael eu harestio heddiw mewn cysylltiad â’r twyll honedig.
Llun: Salman Butt