Mae cyn-Ganhellor y Trysorlys yn cyfadde’ fod y dreth ar y bonws uchel sy’n cael ei dalu i fancwyr, wedi methu â chyrraedd ei nod.
Yn ôl Alistair Darling, mae’r union bobol a oedd i fod i gael eu targedu gan y dreth, sy’n gosod 50% o dreth ar unrhyw fonws dros £25,000, yn llwyddo i’w hosgoi hi’n rhy rhwydd.
Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Financial Times heddiw, mae Mr Darling yn dweud fod “yr union bobol rydych chi ar eu hôl yn dda iawn am ddod o hyd i ffyrdd o osgoi trethi fel hyn, ac mae’n nhw ffeindio pob math o ffyrdd creadigol i beidio â’i thalu”.
“Mae’n annhebygol iawn y bydd y dreth yn cael ei hail-gyflwyno,” meddai Alistair Darling wedyn, cyn ychwanegu, “mae’n bwysig fod bancwyr yn cofio ein bod ni gyd yn byw yn yr un byd, gyda’n gilydd.”