Mae Prif Weinidog Cymreig Awstralia wedi dod gam yn agosach at gadw grym yn dilyn yr etholiad cyffredinol agos fis diwetha’.
Mae plaid Lafur Julia Gillard wedi cael cefnogaeth yr Aelod Seneddol annibynnol, Andrew Wilkie.
Mae hyn yn rhoi 74 o seddi iddi hi yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, sydd ddim ond dwy yn brin o fwyafrif.
Mae gan y glymblaid Geidwadol 73 o seddi, ac mae tri Aelod Seneddol yn parhau’n dawedog ynglŷn â phwy y byddan nhw’n ei gefnogi.
Etholiad arall
Ond os na fydd yr un ochor yn gallu gwarantu mantais o 76 sedd i ffurfio llywodraeth leiafrifol, bydd yr etholiad yn cael ei ail gynnal.
Cynhaliwyd yr etholiad ar 21 Awst, ac ers hynny mae Llafur, a oedd mewn grym, wedi parhau i reoli gyda llywodraeth dros-dro.
Os bydd llywodraeth leiafrifol yn cael ei sefydlu, dyma fydd yr un gynta’ yn Awstralia ers 70 o flynyddoedd.