Mae gweithwyr achub yn chwilio am 44 o bobol yn dilyn tirlithriad difrifol yn ne China.
Mae 23 o bobol wedi cael eu hachub hyd yn hyn o’r difrod ym mhentre’ Wama yn nhalaith Yunnan, ond mae o leia’ bedwar wedi cael eu darganfod yn farw.
Glaw trwm achosodd y tirlithriad, ac mae disgwyl mwy o law eto.
Mae China yn dioddef o lifogydd gwael yn ystod tymor yr haf. Ond eleni yw’r gwaethaf ers degawd, wrth i lifogydd sgubo drwy drefi a phentrefi yng ngogledd ddwyrain a gogledd orllewin y wlad.
Mae gwasanaeth newyddion Xinhua wedi dweud bod 3,185 o bobol wedi marw yn dilyn y llifogydd eleni, a bod 1,000 o bobol eraill yn parhau i fod ar goll.