Mae un o bob pump o bobol sydd ar incwm isel wedi ei chael hi’n anodd fforddio bwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwetha’, meddai arolwg heddiw.

Fe ddywedodd tua 19% o bobol o grwpiau economaidd isel eu bod wedi methu â fforddio bwyta tri phryd y dydd ar ryw adeg yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Mawrth, yn ôl yr elusen tlodi Elizabeth Finn Care.

Mae 8% yn rhagor o bobol ar incwm isel neu ar fudd-daliadau wedi dweud nad oedd digon o arian ganddyn nhw i brynu eitemau bwyd hanfodol, fel bara neu laeth.

Mae ychydig dros un o bob 10 o bobol yn y grŵp hwn yn dweud eu bod wedi cael trafferth talu eu biliau cartref, a 9% wedi methu â thalu eu biliau treth cyngor.

Prawf llygaid a phresgripsiwn

Mae’r grŵp hefyd wedi darganfod nad oedd 19% o bobol yn gallu fforddio prawf llygaid neu sbectol newydd, tra bod 15% wedi mynd heb waith deintyddol a 7% wedi methu â fforddio presgripsiwn lle mae’n rhaid talu am hynny.

Mewn achosion eithafol, fe ddywedodd 5% o bobol yn y grwpiau cymdeithasol-economaidd isel hyn eu bod wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yn ystod y flwyddyn oherwydd nad oedden nhw’n gallu fforddio teithio i’r gwaith.

Ond er gwaethaf hyn, roedd un o bob pedwar o bobol a gafodd eu holi yn dweud nad oedden nhw’n credu bod tlodi yn broblem yn y Deyrnas Unedig.

Fe ddywedodd Bryan Meillion, cyfarwyddwr ymchwil Elizabeth Finn Care ei fod yn “destun pryder” mai dim ond 37% o bobol oedd yn credu bod tlodi’n broblem, tra bod pobol ddim yn gallu fforddio prynu bwyd.