Mae un o ardaloedd hyna’ Bangor yn newid er gwaeth, wrth i bobol newydd symud i fewn i fyw i dai ar rent. Dyna bryder un o drigolion Hirael sydd wedi siarad â Golwg360 am y “nodwyddau ar lawr” a’r cynnydd mewn torcyfraith.
Mae’r dyn canol oed, sy’n dymuno aros yn ddienw oherwydd ei fod yn pryderu am ei ddiogelwch ei hun, yn dweud bod “llawer o bobol sy’n gaeth i heroin, a gwerthwyr cyffuriau” wedi bod yn symud i’r ardal o’r ddinas sy’n ymestyn o iard gychod Dickies i Borth Penrhyn.
“Mae’r gwerthwyr cyffuriau yn chwilio am gyfleoedd ac yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol,” meddai, “ac mae pobol yn cwyno fod yna fwy o ladradau.
“Dw i wedi gweld pobol yn cymryd cyffuriau ac yn eu gwerthu nhw ar gornel y stryd, a dw i wedi gweld nodwyddau ar y stryd, o gwmpas lle mae plant a phobol oedrannus,” meddai wedyn.
“Roedd Hirael yn arfer bod yn lle neis i fyw – ond mae wedi newid. Jyst wrth edrych o gwmpas, rydach chi’n gallu nabod y bobol yma sy’n creu trafferth.”
Gwaeth na myfyrwyr
Mae problemau gwrthgymdeithasol Hirael wedi datblygu wrth i bobol newydd symud i’r ardal dros y misoedd diwetha’, yn ôl ffynhonnell Golwg360.
“Er nad ydi myfyrwyr yn helpu’r sefyllfa wrth adael sbwriel y tu allan i’w tai, mae’r problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r cyffuriau yn gysylltiedig efo’r bobol sydd wedi symud i mewn.”
“Mae’r heddlu wedi cynnal cyrchoedd yn ystod y dyddiau diwetha’, ond dw i’n meddwl y gallan nhw wneud mwy.
“Dydan ni ddim yn gweld yr heddlu’n cerdded o gwmpas. Pan mae rhywun yn eu ffonio nhw, does yna ddim byd yn digwydd am beth amser wedyn.”
Ymateb yr heddlu
“Rydan ni’n ymwybodol o’r pryderon sy’n cael eu mynegi gan drigolion Hirael Bangor, ac rydan ni wedi gosod gwarant cyffuriau ar adeilad yn Ambrose Street,” meddai’r arolygydd heddlu, Guy Blackwell o Heddlu Gogledd Cymru.
“O ganlyniad, rydan ni wedi dod o hyd i, ac yn cadw, cyffuriau dosbarth A a chyffuriau Dosbarth B, ynghyd â swm mawr o arian y daethon ni o hyd iddyn nhw, ac mae tri o bobol ar fechnïaeth ar hyn o bryd.
“Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ystyried gorchymyn tenantiaid sydd yn cael eu herlyn am droseddau cyffuriau allan o’u tai.
“Fe fydd yr Heddlu’n cynyddu eu patrolau yn yr ardal ac yn parhau i hysbysu’r cyhoedd o’r camau positif maen nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau,” meddai.