Fe fydd rhaid i Gavin Henson ddechrau chwarae eto cyn diwedd y flwyddyn os yw am gael unrhyw obaith o gyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd yn 2011, yn ôl hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“Mae’n rhaid iddi fod yn gynt yn hytrach na hwyrach,” meddai mewn cyfweliad gyda Radio Wales. “Os bydd yn ei gadael hi tan y flwyddyn newydd, fe allai fod yn rhy hwyr.”

Roedd yr hyfforddwr yn canmol canolwr y Gweilch i’r cymylau, gan ddweud fod Cymru wedi colli ei allu i ddeall y gêm, yn amddiffynnol yn ogystal ag wrth ymosod.

Roedd hefyd yn canmol ei ymroddiad wrth ymarfer – er gwaetha’r gwallt, y lliw haul a’r sgidiau fflachiog, roedd yn ddyn ifanc tawel a swil, meddai Gatland.

Dyw Henson ddim wedi chwarae ers blwyddyn ac mae ar gyfnod segur di-dâl. Mae hefyd wedi cael problemau yn ei fywyd personol wrth i’w berthynas gyda’r gantores Charlotte Church ddod i ben.