Fe gafodd dyn arfog ei saethu’n farw ar ôl caethiwo tri o bobol ym mhencadlys y Discovery Channel yn yr Unol Daleithiau.

Yr amheuaeth oedd bod y dyn, sy’n adnabyddus am brotestio tros yr amgylchedd, wedi clymu ffrwydron i’w gorff.

Fe gafodd y gwystlon – dau swyddog cyfathrebu ac un swyddog diogelwch – eu dal am bedair awr ond chafodd yr un ohonyn nhw niwed yn swyddfeydd y sianel deledu ym Maryland.

Roedd y dyn, James Lee 43, wedi beirniadu rhaglenni amgylcheddol y sianel yn llym ers rhai blynyddoedd gan eu cyhuddo o wneud mwy o ddrwg na lles i’r blaned.

Dryll

Yn ôl yr heddlu, roedden nhw wedi gweithredu ar ôl bod yn gwylio James Lee ar gamerâu diogelwch a’i weld yn tynnu dryll allan a’i bwyntio at un o’r gwystlon.

Roedden nhw hefyd wedi bod yn siarad gyda’r protestiwr i geisio’i berswadio i ildio.

Fe daniodd dyfais ffrwydrol ar ei gorff pan saethodd yr heddlu sy’n parhau i archwilio a yw dau flwch a bagiau oedd yno hefyd yn cynnwys ffrwydron.

Yn ôl pennaeth sianel Discovery, roedd yn “rhyddhad” bod y warchae wedi dod i ben heb niwed i weithwyr.

Llun: Cludo corff o bencadlys sianel Discovery (AP Photo)