Mae pobol oedrannus sy’n torri eu cluniau’n gorfod aros ychydig yn hwy am lawdriniaeth yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd Prydain ac yn gorfod aros yn hwy yn yr ysbyty hefyd.
Dyna rai o’r casgliadau o adroddiad diweddara Coleg Brenhinol y Llawfeddygon sy’n cynnal cronfa wybodaeth o berfformiad y rhan fwya’ o’r ysbytai sy’n cynnig triniaeth yn y maes.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod casglu’r holl wybodaeth yn ganolog yn help i wella gwasanaethau ac mae 90% o ysbytai – ac wyth yng Nghymru – bellach yn cyfrannu.
Mae’r ystadegau’n dangos bod Cymru ar ei hôl hi gyda rhai o’r prif fesuriadau.
Yr ystadegau
• Tra bod 81% o gleifion ar draws gwledydd Prydain yn cael llawdriniaeth o fewn 48 awr, y ffigwr yng Nghymru yw 79.6%. Yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth, ac Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, mae i lawr i 68%.
• Mae eraill yn gwneud yn well, gydag Ysbyty Glangwili Caerfyrddin ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn cyrraedd mwy nag 86% ac Ysbyty Gwynedd Bangor ar 95%.
• ran aros yn yr ysbyty, mae cleifion ar draws gwledydd Prydain yn gorfod aros am gyfartaledd o 17.7 diwrnod yn y wardiau triniaeth a 23.4 diwrnod yn yr ysbyty.
• Yng Nghymru, y ffigurau yw 19.8 diwrnod yn y wardiau triniaeth a 32.9 diwrnod yn yr ysbyty.
• Dim ond Ysbyty Maelor Wrecsam sy’n gwneud yn well na’r cyfartaledd Prydeinig o ran aros yn y wardiau triniaeth a dim ond Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd sy’n gwneud yn well o ran amser yn yr ysbyty.
‘Blaenoriaeth’
Yn ôl y Coleg, trin pobol sydd wedi torri clun yw un o’r blaenoriaethau o ran triniaeth ac iechyd cyhoeddus. Mae’n achosi llawer o farwolaethau ymhlith pobol oedrannus ac yn gallu effeithio’n ddifrifol ar ansawdd eu bywydau a’u gallu i fyw’n annibynnol.
Maen nhw’n dweud bod 76,000 o achosion yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn a hynny’n costio £1.4 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd.
Maen nhw’n dweud bod modd arbed arian trwy gael gwared ar “oedi diangen”.
Llun: Ysbyty Gwynedd Bangor – gwell na’r cyfartaledd am driniaeth o fewn 48 awr