Mae Ofgem wedi lansio ymchwiliad i’r ffordd y mae pedwar o’r prif gwmnïau trydan yn perswadio cwsmeriaid i brynu ganddyn nhw.

Mae’r rheoleiddiwr ynni wedi dweud ei fod yn barod i “weithredu’n llym” os yw’n canfod bod npower, Scottish Power, EDF Energy neu Scottish and Southern Energy – mam gwmni Swalec yn ne Cymru – wedi torri’r rheolau.

Mae Ofgem wedi sefydlu llinell gymorth i ddefnyddwyr sy’n poeni am y dulliau sy’n cael eu defnyddio wrth werthu cytundebau ynni, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Yr amheuaeth yw bod rhai cwsmeriaid yn newid cwmni ac wedyn yn talu rhagor am eu trydan.

Rheolau newydd

Maen Ofgem am ymchwilio i weld a yw rheolau newydd mwy llym yn cael eu torri ers eu cyflwyno ym mis Hydref y llynedd.

Mae’r rheiny’n mynnu bod rhaid i gwmnïau roi mwy o wybodaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys rhoi amcan bris.

“Mae gan gyflenwyr presennol rwymedigaethau i ganfod ac atal cam-werthu,” meddai llefarydd ar ran Ofgem, Andrew Wright.

“Rydym yn disgwyl i bob cyflenwr gydymffurfio, ond os yw ein hymchwiliadau’n canfod nad ydyn nhw fe fyddwn ni’n gweithredu’n llym.”

Corff cwsmeriaid yn croesawu

Fe ddywedodd Audrey Gallacher, pennaeth ynni Consumer Focus fod yr ymchwiliad yn “gam i’w groesawu gan Ofgem” i fynd i’r afael â “blynyddoedd o gwsmeriaid yn cael bargen wael ar brisiau ynni ar stepen eu drws.”

Fe fydd y llinell gymorth yn agored o heddiw ymlaen ar 08454 040506.

Llun: Peilon trydan (Yummifruitbat CCA 2.5)