Fe fydd y Comisiwn Etholiadol yn dweud heddiw a ydyn nhw’n hapus gyda’r cwestiwn tebygol yn y refferendwm datganoli.
Maen nhw wedi bod yn ymgynghori ynglŷn â’r geiriau sydd wedi eu cynnig gan Swyddfa Cymru a’r Llywodraeth yn Llundain.
Y Llywodraeth fydd â’r gair terfynol ond mae disgwyl iddyn nhw gymryd sylw o unrhyw argymhellion gan y Comisiwn.
Roedd gan y Comisiwn ddeg wythnos i wneud eu gwaith a dyna oedd un o’r rhesymau tros beidio â chynnal y refferendwm yn ystod yr hydref eleni.
Beirniadu
Fe gafodd y cwestiwn ei gyhoeddi gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ar 23 Mehefin eleni – ar y pryd, roedd yn feirniadol iawn o ddiffyg gweithredu’r Llywodraeth Lafur ar y pwnc.
Mae’r geiriau – sy’n cynnwys cyflwyniad a chwestiwn – wedi eu beirniadu am fod yn gymhleth wrth geisio egluro’r gwahaniaeth rhwng y sefyllfa bresennol a’r hyn sy’n cael ei argymell.
Yn ei hanfod, fyddai dim newid anferth yn hawliau’r Cynulliad ond yn lle gorfod cael caniatâd y Senedd yn Lloegr cyn cael gwneud deddfau, fe fyddai gan y Cynulliad yr hawl awtomatig i wneud deddfau yn yr holl feysydd sydd wedi eu datganoli.
Does dim penderfyniad terfynol eto ynglŷn â dyddiad y refferendwm chwaith.
Dyma’r geiriau
Dyma’r geiriau sydd wedi eu cynnig gan Swyddfa Cymru – y cyflwyniad i ddechrau, ac yna’r cwestiwn.
“Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaedthol (y Cynulliad) y pwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar rai pynciau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli yn cynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a’r amgylchedd. Caiff y Cynulliad ennill mwy o bwerau i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli trwy gael cytundeb gan Senedd y Deyrnas Unedig, a hynny fesul pwnc.
“Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio ‘Ydw’ yn y refferendwm hwn, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau i ddeddfu ar bob pwnc yn y meysydd sydd wedi’u datganoli. Os bydd y rhan fwyaf yn pleidleisio ‘Nac Ydw’ bydd y trefniadau presennol – sef trosglwyddo’r hawl i ddeddfu bob yn damaid, gyda chytundeb Senedd y Deyrnas Unedig bob tro – yn parhau.”
Y Cwestiwn
“Ydych chi’n cytuno y dylai’r Cynulliad gael pwerau yn awr i ddeddfu ar yr holl bynciau yn y meysydd sydd wedi’u datganoli heb fod angen cytundeb Senedd y Deyrnas Unedig yn gyntaf?”
Llun: Cheryl Gillan