Mae rhieni’r 200fed milwr Prydeinig i farw yn Afghanistan wedi dweud fod angen gwneud llawer mwy i helpu milwyr sy’n cael eu hanafu’n ddifrifol.

Yn ôl Hazel a Phillip Hunt o’r Fenni, does dim digon o gymorth i filwyr sydd wedi eu clwyfo neu wedi eu siglo gan effeithiau’r rhyfel.

Roedden nhw’n siarad ar ôl y cwest i’w mab, Richard Hunt, 21 oed, a fu farw ym mis Awst y llynedd, ddeuddydd ar ôl cael ei anafu yn yr ymladd yn Afghanistan.

Angen cefnogaeth

Doedd dim gobaith y byddai’r Cymro’n byw trwy hynny ond, yn ôl ei rieni, roedd yna filwyr eraill yn goroesi gydag anafiadau difrifol ac yn cael eu gadael heb ddigon o gefnogaeth.

“Mae arnyn nhw angen llawer mwy o help nag y maen nhw’n ei gael,” meddai Hazel Hunt. “Maen nhw’n cael eu hyfforddi i fod yn wydn ac i beidio â dibynnu ar neb.

“Mae’n fater o nofio neu fynd o dan y don, ac mae llawer yn mynd o dan y don.”

Llun: Richard Hunt (Gwifren PA)