Fe fydd achos llofruddio’n dechrau heddiw yn erbyn dyn a gafodd ei arestio yn Wrecsam ar ôl helfa o rai dyddiau gan yr heddlu.
Mae Michael Roberts wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig, Victoria, a hynny chwe mis ar ôl iddyn nhw briodi.
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y wraig ifanc yn y garej ger eu fflat yn Runcorn yn Swydd Caer ddechrau mis Rhagfyr y llynedd.
Fe fu’r heddlu’n chwilio am ddyddiau cyn arestio Michael Roberts o Partington Square, Daresbury, yn ardal Wrecsam.
Fe fydd yr achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron Lerpwl.
Llun: Victoria a Michael Roberts ar ddydd eu priodas (Gwifren PA)