Fe fydd trafodaethau heddwch y Dwyrain Canol yn dechrau o ddifri heddiw, am y tro cyntaf ers bron ddwy flynedd.

Roedd yna ysgwyd llaw cynnes neithiwr rhwng Prif Weinidog Israel, Bemjamin Netanyahu, ac Arlywydd y Palesteiniaid, Mahmoud Abbas, wrth iddyn nhw ac arweinwyr yr Aifft a Gwlad yr Iorddonen gwrdd yn Washington.

Mae’r ddau hefyd wedi mynegi awydd am heddwch ond wedi rhoi rhybuddion ynglŷn â’u gofynion sylfaenol. Y nod yn y pen draw yw creu gwladwriaeth sofran i’r Palesteiniaid a rhoi sicrwydd tymor hir i Israel.

Mae Israel eisiau heddwch tymor hir yn hytrach na bwlch yn yr ymladd, meddai Benjamin Netanyahu, wrth alw’r Arlywydd Abbas yn “bartner”.

Roedd yntau’n mynnu bod rhaid i Israel roi’r gorau i adeiladau trefedigaethau newydd ar dir y Palesteiniaid ac fe alwodd am roi pen ar y blocâd ar yr ardaloedd Palesteinaidd.

‘Gobeithiol’ meddai Obama

“Dwi’n obeithiol, yn betrusgar obeithiol, ond yn obeithiol,” meddai’r Arlywydd Barack Obama, sydd wedi treulio 18 mis yn ceisio denu’r ddwy ochr yn ôl i drafodaethau. “A oes gyda ni’r doethineb a’r dewrder i fynd ar lwybr heddwch?”

Fe gafodd gyfarfod gyda phob un yn unigol neithiwr, cyn iddyn nhw i gyd gwrdd tros swper – gyda gwahaniaethau mawr rhwng y ddwy ochr, y gobaith mwya’ yn y tymor byr yw cael trafodaethau pellach yn nes ymlaen y mis yma.

Fe osododd Mahmoud Abbas darged i geisio cael cytundeb o fewn blwyddyn ond dyw mudiad milwriaethus Hamas, sy’n rheoli ardal Balesteinaidd Gaza, ddim yn rhan o’r trafodaethau.

Yn union cyn dechrau’r trafod, fe wnaethon nhw hawlio cyfrifoldeb am ladd pedwar o fewnfudwyr Israelaidd ar y Lan Orllewinol.

Llun: Mahmoud Abbas a Benjamin Netanyahu yn siarad neithiwr (AP Photo)