Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi gwadu bod ef a’i wraig Ffion yn cael problemau yn eu priodas.
Fe ddaw hyn ar ôl i’w ymgynghorydd arbennig roi’r gorau i’w swydd yn dilyn sïon “maleisus” ei fod mewn perthynas gyda’r gwleidydd.
Mewn datganiad, fe ddywedodd William Hague bod awgrymiadau ei fod ef a Christopher Myers mewn perthynas yn “gwbl ffug.”
Colli babanod yn y groth
Fe ddatgelodd William Hague ei fod ef a’i wraig Gymraeg wedi colli sawl beichiogrwydd wrth iddyn nhw geisio dechrau teulu, a’u bod nhw’n galaru am eu colled didweddaraf yr haf yma.
“Dw i ddim wedi cuddio’r ffaith fy mod i a Ffion yn awyddus i ddechrau teulu. Ond r’yn ni wedi cael trafferthion ac yn galaru am golli baban yn y groth dros yr haf,” meddai William Hague.
“R’yn ni’n ymwybodol bod anffrwythlondeb yn gallu rhoi straen ar briodas, ond, trwy fendith, yn ein hachos ni, mae wedi dod â ni’n agosach”
Roedd Christopher Myers, 25 oed, wedi cael ei gyflogi’n gynorthwyydd yn etholaeth William Hague yn ystod yr Etholiad Cyffredinol cyn dod yn ymgynghorydd polisi i’r Ysgrifennydd Tramor.
Rhannu ystafelloedd
Fe gyfaddefodd William Hague iddo ef a Christopher Myers rannu ystafelloedd mewn gwestai yn ystod yr etholiad. Ond fe nododd na fydden nhw wedi gwneud pe bai hynny’n awgrymu rhywbeth arall.
“Wrth edrych ‘nôl fe ddylen ni fod wedi rhoi mwy o ystyriaeth i beth allai hynny fod wedi ei olygu, ond dyw hynny ddim yn cyfiawnhau’r honiadau o’r math yma, sy’n gelwyddog ac yn achosi gofid i mi, Ffion a Christopher”
Roedd rhai wedi beirniadu penodiad Christopher Myers i’w swydd gan gredu nad oedd ganddo’r profiad priodol i weithio yn y Swyddfa Dramor.