Mae tîm menywod Cymru wedi sicrhau eu lle yn nawfed safle rownd derfynol Cwpan y Byd gyda buddugoliaeth gadarnhaol 34-10 yn erbyn Sweden.

Fe sgoriodd Cymru chwe chais yn Surrey Sports Park yn Guilford i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth.

Fe sgoriodd Cymru dri chais yn yr hanner cynta’, gydag Elinor Snowsill, Sioned Harries a Melissa Berry yn croesi’r llinell, gydag Awen Thomas yn llwyddo gyda dau drosiad.

Fedrai Sweden wneud dim ond taro’n ôl gydag un gic gosb cyn yr egwyl, pan oedd Cymru ar y blaen, 19-3.

Ail hanner

Fe gychwynnodd yr ail hanner yn debyg i’r gyntaf gyda Sioned Harries yn sgorio ei hail gais wedi pedwar munud.

Fe ymatebodd Sweden yn dda gan sgorio cais eu hunain ddeg munud yn ddiweddarach, gyda Charlotta Westin-Vines yn croesi’r llinell, a Lina Norman yn trosi.

Ond Cymru gafodd y gair olaf gyda dau gais arall Laura Prosser a Jamie Kift. Fe allai’r sgôr fod wedi bod yn llawer uwch oni bai i Gymru fethu gyda phedwar trosiad.

Fe fydd Cymru yn cael y cyfle arall i guro De Affrica am y nawfed safle dydd Sul, ar ôl colli 15-10 mewn gêm agos yn y grŵp.