Mae Clwb Criced Morgannwg wedi dweud eu bod nhw’n parhau gyda pharatoadau i gynnal gemau Ugain20 rhyngwladol rhwng Lloegr a Phacistan yn Stadiwm SWALEC, er gwaetha’r honiadau o dwyll yn erbyn rhai o chwaraewyr Pacistan.

Mae tri o chwaraewyr Pacistan, Mohammad Asif, Mohammad Aamer, a’r capten Salman Butt, yn wynebu cael eu holi gan Fwrdd Criced Pacistan yfory.

Mae’r tri chwaraewr dan sylw eisoes wedi cael eu holi gan yr heddlu, ac mae’r awdurdodau hefyd wedi cymryd eu ffonau symudol oddi arnyn nhw.

Cefndir

Fe gafodd yr asiant criced Mazhar Majeed ei arestio am ei ran honedig yn y cynllun dros y penwythnos. Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddoe, ac fe fydd yn ymddangos o flaen yr heddlu yn ddiweddarach.

Mae tri pherson arall – dau ddyn a menyw o Lundain wedi cael eu harestio heddiw mewn cysylltiad â’r twyll honedig.

Mae disgwyl i Bacistan chwarae Gwlad yr Haf ddydd Iau cyn cychwyn ar y gyfres Ugain20 yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar 5 Medi.

Morgannwg yn meddwl ymlaen

“Er gwaethaf yr ymchwiliadau i’r honiadau gafodd eu gwneud gan bapur cenedlaethol y penwythnos diwetha’, r’yn ni’n parhau gyda’n paratoadau ar gyfer y gemau Ugain20 rhwng Lloegr a Phacistan,” meddai Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer.

“Mae miloedd o bobol eisoes wedi prynu tocynnau i’r ddwy gêm ac yn edrych ymlaen at gemau cyffrous rhwng rhai o chwaraewyr gorau’r byd.”

Mae Morgannwg yn cydweithio gyda’r Pwyllgor Argyfyngau ac Islamic Relief i godi arian tuag at Apêl Llifogydd Pacistan.

Fe fydd arian yn cael ei gaglu yn y ddwy gêm ac fe fydd Morgannwg hefyd yn rhoi canran o’u gwerthiant tocynnau yn ogystal.