Mae’r llif mawr sydd wedi creu anhrefn ym Mhacistan ers pump wythnos, wedi dechrau troi i gyfeiriad y môr heddiw, ar ôl llyncu dwy dre’ arall. Ond mae’r her wrth ddarparu gofal meddygol i wyth miliwn o bobol yn parhau.
Mae lefel y dŵr wedi dechrau gostwng yn y gogledd ac yn Punjab erbyn hyn, ond maen nhw wedi effeithio trefi yn nhalaith Sindh yn y de, yn agos i’r afon Indus, yn ystod y deg diwrnod diwethaf.
Dywedodd swyddog llywodraethol, Hadi Bakhsh, fod y ddwy dref ola’ ar lan y môr wedi eu taro brynhawn ddoe.
Edrych i’r dyfodol
Mae’r awdurdodau wedi ei chael hi’n anodd i roi bwyd, llety a gofal meddygol i’r bobol sydd wedi goroesi’r llifogydd. Roedd gwledydd tramor a’r Cenhedloedd Unedig yn araf wrth ymateb i’r drychineb, yn rannol am ei bod hi’n beth amser cyn i wir raddfa’r sefyllfa ddod yn glir.
Mae awyrennau, cerbydau a chychod y fyddin yn dod a chymorth i’r ardaeloedd gwaethaf yn raddol, ond mae miliynau yn dal heb dderbyn dim help o gwbwl.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod angen arian a bwyd ychwanegol ar unwaith er mwyn sicrhau digon o gymorth i bara tan yr wythnos nesa’.
Pan fydd y llifogydd wedi gostwng, fe fydd angen ymgyrch enfawr i ail-adeiladu’r wlad – ymgyrch a fydd yn costio biliynau o bunnoedd ac yn para blynyddoedd.